Psalms 21

Y brenin yn dathlu gofal Duw

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1O Arglwydd, mae'r brenin yn llawen
am dy fod ti'n ei nerthu;
mae'n gorfoleddu'n fawr
am dy fod yn rhoi'r fuddugoliaeth iddo!
2Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau,
wnest ti ddim gwrthod beth oedd e'n gofyn amdano.

 Saib
3Ti'n ei fendithio â phopeth da,
ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.
4Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo –
bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.
5Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo.
Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.
6Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth,
a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni.
7Ydy, mae'r brenin yn trystio'r Arglwydd.
Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon,
felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.
8Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion;
byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu.
9Pan fyddi'n dod i'r golwg
byddi'n eu llosgi nhw mewn ffwrnais.
Mae'r Arglwydd yn ddig,
a bydd yn eu dinistrio nhw;
bydd tân yn eu llosgi nhw.
10Byddi'n cael gwared â'u disgynyddion o'r ddaear;
byddan nhw'n diflannu o blith y ddynoliaeth.
11Roedden nhw eisiau gwneud niwed i ti;
roedd ganddyn nhw gynllun
ond allen nhw byth lwyddo.
12Ti'n gwneud iddyn nhw droi yn ôl
drwy gymryd dy fwa ac anelu dy saethau atyn nhw.
13Cod, Arglwydd! Dangos dy nerth!
Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr.
Copyright information for CYM